Past Event – The Longest Yarn

1st July - 19th July 2025
Pontardawe Heritage Centre
Free

Wel dyna beth oedd arddangosffa werth ei weld!
29 banel yn darlunio digwyddiadau’r Ail Ryfel Byd mewn
gwau a chrosio.
Ond, fel y daeth i dref bach Pontardawe? Yn fyr, dim ond
lwc oedd hi.
Ym mis Ebrill aeth ychydig o ffrindiau a minnau i sioe
flynyddol Wonderwool yn Llanfair-ym-Muallt. Roedd “The
Longest Yarn” yn arddangos y 9 cyntaf o’r 80 panel a fydd
yn teithio’r wlad o fis Medi ymlaen. Wrth edrych ar eu llyfryn
sylwais y byddai 41 panel yn cael eu harddangos yn
Aberhonddu ym mis Gorffennaf. Penderfynais edrych ar eu
gwefan i ddarganfod ble yn Aberhonddu yr oedd e’n cael ei
harddangos.
Tra roeddwn ar y wefan sylwais fod bwlch o dair wythnos i
29 panel, ar ôl Plymouth a chyn Aberhonddu, ac roeddwn i’n
meddwl tybed a fyddai Canolfan Dreftadaeth Pontardawe yn
gallu darparu lle i 29 o baneli.
Gan fy mod i’n ymddiriedolwr y ganolfan anfonais neges at
Tansi Forster, sylfaenydd yr elusen The Longest Yarn, a
gofyn a fyddai’n bosibl. Roedd hi’n bositif iawn chwarae teg.
Ac ar ôl i fi drafod gyda’r ymddiriedolwyr eraill a mesur y lle
roedd gyda ni yn y ganolfan, roedden ar y ffordd!
Mae wedi bod yn anrhydedd cynnal arddangosfa mor
fawreddog. Mae’r gwaith sy’n gysylltiedig â gwneud y paneli
yn syfrdanol ac mae llawer o bobl o bob oed wedi cyfrannu.
Hefyd mae rhai o’r straeon yn bersonol iawn i greawdwyr y
paneli.
Un enghraifft o hwn yw panel sy’n dangos llyfr dogni a
dognau bwyd i un person am wythnos. Cafodd y panel hwn
ei wau gan Caroline Griffiths o Bort Talbot ac mae wedi’i
gymryd o lyfr dogni ei mam-gu.
Erbyn mis Medi bydd 80 panel yn teithio o gwmpas y DU ac
Iwerddon tan o leiaf 2027. Rwy’n annog pawb i weld yr
arddangosfa addysgiadol ac ysbrydoledig hon.

I orffen, hoffwn ddiolch yn ddiffuant i’r holl wirfoddolwyr a
roddodd o’u hamser yn ystod tair wythnos yr arddangosfa.
Ni fyddem wedi gallu ymdopi hebddyn nhw. Diolch hefyd i
bawb a ymwelodd a’r Ganolfan Dreftadaeth i fwynhau’r
arddangosfa. Gobeithiwn y byddwch yn ymweld a ni eto.
Glenda Davies

Please see video link below (provided with the kind permission of Tinopulus)

https://www.facebook.com/reel/1089080876439932?locale=en_GB